Hysbysiad Preifatrwydd Lantra
Cyflwyniad
Mae Lantra yn casglu ac yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn ac yn unol â'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a’r deddfau perthnasol. Mae'r hysbysiad hwn yn rhoi gwybodaeth i chi am eich hawliau a'n rhwymedigaethau, ac mae’n egluro sut, pam a phryd rydym yn prosesu eich data personol.
- Pwy ydym ni
-
Mae Lantra yn elusen gofrestredig sydd ag ymrwymiad i'w hamcanion elusennol, sef...
… addysgu’r cyhoedd a chynnal gwaith ymchwil addysgol...
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddarparu hyfforddiant, asesiadau a chymwysterau o ansawdd uchel (gan y Sefydliad Dyfarnu), a thrwy gynnal gweithgareddau eraill i fodloni ein hamcanion elusennol pan fo cyllid ar gael. Nod Lantra yw gwella bywydau a busnesau trwy hyrwyddo a galluogi datblygiad sgiliau.
Mae swyddfa gofrestredig Lantra yn Lantra House, Stoneleigh Park, Coventry, Swydd Warwick CV8 2LG, ac rydym yn gwmni sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan rif cwmni 2823181.
Ein rhif cofrestru elusen yn yr Alban yw SC039039.
Rydym wedi cofrestru ar Gofrestr Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel Z5878437. Sandie Absalom yw Rheolwr Data Lantra, a gellir cysylltu â hi ar 02476 696996.
Data Personol
- Yr wybodaeth a gasglwn
-
Fel rhan o'n gwaith ar brosiectau a ariennir yn yr Alban, efallai y bydd angen i ni gasglu gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi. Bydd hyn yn amrywio fesul prosiect, ond byddwn yn eich hysbysu o'r hyn y mae angen i ni ei gasglu a pham bob tro, a byddwn yn gofyn i chi am eich caniatâd i wneud hynny. Gallwch ddysgu mwy trwy ddarllen ein polisi preifatrwydd llawn.
- Sut rydym yn defnyddio'ch data personol
-
Mae eich preifatrwydd yn fater difrifol i Lantra, a dim ond pan fo buddiant busnes dilys y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda thrydydd parti.
Os byddwch yn ymwneud â Lantra fel defnyddiwr ein gwefan, ni fydd eich data yn cael ei rannu ag unrhyw drydydd parti.
Os ydych chi'n ddysgwr ar gwrs Lantra gyda Darparwr Hyfforddiant, Darparwr Hyfforddiant Lantra, Hyfforddwr, Aswiriwr Ansawdd Allanol neu Aseswr, efallai y bydd rhaid i ni rannu eich data gyda Darparwyr Hyfforddiant, Aswirwyr Ansawdd Allanol, Dilyswyr Technegol, a sefydliadau postio swmp.
Os ydych chi'n rhan o brosiect a ariennir gan drydydd parti, efallai y byddwn yn rhannu eich data gyda'r cyllidwr a chyda sefydliadau postio swmp. Byddwn yn gofyn i'r sefydliad postio ddileu'ch data unwaith y byddant wedi gorffen postio.
Ni fyddwn byth yn datgelu, yn rhannu nac yn gwerthu eich data heb eich caniatâd, oni bai bod yn rhaid gwneud hynny yn ôl y gyfraith. Byddwn ond yn cadw eich data cyhyd ag sy'n angenrheidiol ac ond at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad hwn ac yn y canllawiau eraill a ddarperir gan Lantra. Pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i ni roi cynigion hyrwyddo a marchnata i chi, cewch ddiddymu’r caniatâd hwn ar unrhyw adeg. I ddiddymu caniatâd, cysylltwch â Sandie Absalom, Rheolwr Data, ar 02476 696996.
Manylir ar y dibenion a'r rhesymau dros brosesu eich data personol isod:
- Rydym yn casglu data personol wrth gyflawni contractau neu wrth ddarparu gwasanaeth ac er mwyn sicrhau bod archebion yn cael eu cwblhau a’u hanfon i’r cyfeiriad dewisol
- Byddwn yn prosesu eich data personol pan fyddwn yn gwirio eich hunaniaeth mewn prosesau ardystio neu gardiau sgiliau penodol
- Fel rhan o'n telerau ac amodau cytundebol, bydd darparwyr hyfforddiant cymeradwy, Aswirwyr Ansawdd Allanol a Dilyswyr Technegol yn cael diweddariadau rheolaidd ynghylch cynnyrch a gwasanaethau Lantra ac eitemau o ddiddordeb sy'n ymwneud â'n diwydiant. Ni fydd gwybodaeth o'r fath yn tarfu arnoch.
Nid yw Lantra yn yr Alban yn prosesu gwybodaeth sy'n ymwneud â hyfforddiant, asesu a chymwysterau Dyfarniadau Lantra. Fodd bynnag, wrth gyflwyno cynllun gwaith yr Alban a gweithgareddau gwasanaeth cynghori fferm, efallai y byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch chi yn y modd a ddisgrifir yn yr adran flaenorol.
- Am ba hyd fyddwn ni'n cadw eich data
-
Ni fydd Lantra yn cadw gwybodaeth bersonol am hirach nag sy'n angenrheidiol, ac mae gennym bolisïau adolygu a chadw llym ar waith i fodloni'r rhwymedigaethau hyn. Ein polisi yw cadw'ch data personol am uchafswm o 6 blynedd, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddinistrio. Fodd bynnag, os ydych wedi cael tystysgrif neu gerdyn Lantra, mae gan Lantra bolisi i gadw'ch gwybodaeth am gyfnod amhenodol. Os byddwch yn cael eich tystysgrif ac yna’n gofyn i ni ddinistrio eich data, ni allwn gadarnhau’r dyfarniad neu ail-gyhoeddi tystysgrif coll wedi hynny.
- Rhannu a datgelu eich gwybodaeth bersonol
-
Nid fyddwn yn rhannu nac yn datgelu dim o’ch gwybodaeth bersonol heb eich caniatâd, ac eithrio at y dibenion a bennir yn yr hysbysiad hwn neu pan fo gofyniad cyfreithiol. Mae Lantra yn defnyddio dotmailer.com a mailchimp i ddarparu'r gwasanaethau isod. Fodd bynnag, mae pob prosesydd sy'n gweithredu ar ein rhan yn prosesu'ch data yn unol â’n cyfarwyddiadau ni a chan gydymffurfio'n llwyr â'r hysbysiad preifatrwydd hwn, y deddfau diogelu data, ac unrhyw fesurau cyfrinachedd a diogelwch priodol eraill.
Gwasanaethau anfon e-bost swmp
Am hysbysiad preifatrwydd Dotmailer gweler www.dotmailer.com/terms/privacy-policy/ ac am wybodaeth am Mailchimp a GDPR, gweler https://kb.mailchimp.com/binaries/content/assets/mailchimpkb/us/en/pdfs/mailchimp_gdpr_sept2017.pdf
- A fydd rhywun yn cysylltu â mi at ddibenion marchnata?
-
Mae Lantra yn cynnal cynllun aelodaeth i ddarparwyr hyfforddiant, cynllun aelodaeth i hyfforddwyr, a chynllun aelodaeth i ddysgwyr ac rydym yn anfon negeseuon e-bost rheolaidd i sôn am wybodaeth berthnasol.
Os ydych yn yr Alban, efallai y bydd Lantra yn cysylltu â chi am y gwaith rydym yn ei wneud i ddiwydiannau gwledig yr Alban ar ran Llywodraeth yr Alban.
Byddwn ond yn anfon negeseuon e-bost marchnata atoch os ydych wedi rhoi caniatâd i ni eu hanfon i chi. Pan fyddwch wedi caniatáu i ni ddefnyddio eich manylion ar gyfer marchnata uniongyrchol, byddwn yn cadw'ch data nes byddwch yn gofyn i ni beidio neu nes byddwch yn diddymu eich caniatâd.
Preifatrwydd a'ch gweithgareddau
- Eich hawliau
-
- Mae gennych hawl i gael gwybod am unrhyw wybodaeth y mae Lantra yn ei phrosesu a'r rhesymau dros brosesu'r wybodaeth hon
- Mae gennych yr hawl i gael mynediad at unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch sydd gan Lantra
- Mae gennych yr hawl i’w gywiro. Os credwch ein bod yn cadw unrhyw ddata anghyflawn neu anghywir amdanoch chi, mae gennych yr hawl i ofyn i ni ei gywiro. Byddwn yn gwneud hynny o fewn 20 diwrnod gwaith, oni bai bod rheswm dilys dros beidio â gwneud hynny. Os bydd rheswm, byddwn yn dweud wrthoch. Bydd Lantra hefyd yn gofyn i unrhyw drydydd parti sydd â’r data wneud y newidiadau hyn hefyd.
- Mae gennych yr hawl i ddileu data, ond wrth wneud hynny efallai na fydd Lantra yn gallu parhau i ddarparu'r un gwasanaeth. Ar eich cais, bydd data yn cael ei ddileu o fewn 20 diwrnod gwaith
- Mae gennych yr hawl i gyfyngu ar brosesu eich data personol:
- pan fydd cywirdeb y data yn cael ei herio (am gyfnod o amser i alluogi'r rheolwr i wirio'r cywirdeb)
- pan fydd y prosesu yn anghyfreithlon ac rydych chi'n gwrthwynebu dileu'r data ac yn hytrach yn gofyn am gyfyngiadau ar ei ddefnydd
- pan fyddwch yn gwrthwynebu i’r prosesu ar sail buddiannau busnes dilys
- pan na fydd ar Lantra, y rheolydd, angen y data mwyach ond bod arnoch chi ei angen i arfer neu i amddiffyn rhag hawliad cyfreithiol
- Os byddwch yn arfer yr hawl hon, gall olygu na fydd Lantra yn gallu parhau i ddarparu'r gwasanaeth disgwyliedig
- Mae gennych yr hawl i’ch data fod yn gludadwy, sy'n eich galluogi i gael ac i ailddefnyddio eich data personol at eich dibenion eich hun ar draws gwahanol wasanaethau. Mae'n caniatáu i chi symud, copïo neu drosglwyddo data personol yn hawdd o un amgylchedd TG i'r llall mewn ffordd ddiogel, heb amharu ar ei ddefnyddioldeb.
- Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i:
- farchnata uniongyrchol. Nid oes angen i chi roi rheswm dros eich gwrthwynebiad, gan nad oes unrhyw eithriadau a fydd yn caniatáu i'r prosesu barhau.
- prosesu ar sail buddiannau dilys neu gyflawniad tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol.
- prosesu at ddibenion ymchwil neu ddibenion ystadegol.
-
Os cawn gais i arfer unrhyw un o'r hawliau uchod, efallai y byddwn yn gofyn i chi wirhau eich hunaniaeth cyn y gallwn weithredu ar y cais. Mae hyn er mwyn sicrhau bod eich data yn cael ei amddiffyn a’i gadw’n ddiogel.
Sylwch nad yw Lantra yn rhan o unrhyw broffilio neu benderfyniadau awtomataidd.
Bydd Lantra bob amser yn cynghori:
- pam mae angen eich data arnom
- gyda phwy y gallwn rannu eich data personol
- am ba hyd rydym yn bwriadu cadw eich data ynghyd â’n dulliau i’w storio a’i waredu
- gwybodaeth am y ffynhonnell, os na wnaethom gasglu'r data yn uniongyrchol gennych chi
- Mesurau diogelu
-
Mae Lantra yn cymryd pob mesur a rhagofal rhesymol i amddiffyn a diogelu eich data personol. Rydym yn gweithio'n galed i'ch diogelu chi a'ch gwybodaeth rhag mynediad, newidiad, datgeliad, neu ddinistriad anawdurdodedig, ac mae gennym sawl haen o fesurau diogelwch ar waith, gan gynnwys:
- SSL/TLS ar gyfer amgryptio e-bost a SSL ar gyfer amgryptio gwefannau
- Diogelwch llwyr i’n rhwydwaith byw gan ein wal dân (firewall)
- Diogelwch ar lefel rhwydwaith rhwng y rhwydweithiau sydd wedi’u diogelu a’r rhai sydd heb eu diogelu, gyda defnyddwyr yn cael eu dilysu yn ganolog ar ein rhwydwaith di-wifr.
- Sganio gwrth-firws llawn ar draws pob system
- Trosglwyddiadau o du allan i'r UE (os yw'n berthnasol)
-
Caiff data personol yn yr Undeb Ewropeaidd ei ddiogelu gan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) ond efallai y bydd gan wledydd eraill safonau gwahanol.
Mae Lantra yn trosglwyddo'r data personol canlynol y tu allan i'r UE:
Cyfeiriadau e-bost darparwyr neu sefydliadau y mae Lantra yn eu contractio ar gyfer amcanion busnes cyfreithlon i hyrwyddo ein hamcanion elusennol
Pan fyddwn yn trosglwyddo gwybodaeth bersonol am y rhesymau hyn, rydym yn defnyddio ein mesurau a'n mecanweithiau diogelu i sicrhau bod eich data personol bob amser yn ddiogel ac yn cael ei amddiffyn.
Gwybodaeth bellach
- Gwneud cwyn
-
Bydd Lantra ond yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â'r hysbysiad preifatrwydd hwn ac yn unol â'r deddfau diogelu data perthnasol. Fodd bynnag, os hoffech gwyno am sut rydym wedi prosesu eich data personol neu os nad ydych yn fodlon â sut rydym wedi trin eich gwybodaeth, mae gennych yr hawl i wneud cwyn i'r awdurdod goruchwylio.
Dylech anfon eich cwyn yn gyntaf i:
Kris Swainston, Lantra Data Controller, Lantra House, Stoneleigh Park, Coventry. CV8 2LG
kris.swainston@lantra.co.uk 02476 696996 www.lantra.co.uk
Soniwch am bryder trwy anfon neges i:
Information Commissioners Office (ICO), Supervisory Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SKP 5AF
0303 123 1113 www.ico.org.uk
- Hysbysiad Cwcis
-
Mae 'cwci' yn ddarn o ddata a anfonir o wefan ac a gaiff ei storio ar eich cyfrifiadur gan eich porwr gwe. Y tro cyntaf y byddwch yn ymweld â gwefan sy'n defnyddio cwcis, bydd yn rhoi cwci ar eich cyfrifiadur i gofnodi mathau penodol o wybodaeth. Y tro nesaf y byddwch chi'n ymweld â’r un wefan, bydd eich dyfais felly’n gallu cofio pethau megis beth sydd yn eich basged siopa, y tudalennau gwe y gwnaethoch ymweld â nhw, neu'ch manylion mewngofnodi.
Mae cwcis yn cael eu defnyddio'n helaeth, ac mae ein gwefan yn dibynnu arnynt i roi’r profiad gorau posibl i’w defnyddwyr ac i alluogi rhai nodweddion a gwasanaethau i weithio'n iawn.
Mae gan y rhan fwyaf o borwyr gwe osodiadau sy'n caniatáu ichi gyfyngu neu rwystro cwcis, ond os byddwch chi'n rhwystro cwcis gallai effeithio ar eich gallu i ddefnyddio rhannau penodol o'n gwefan neu wasanaethau. Dilynwch y ddolen i ddysgu mwy https://www.aboutcookies.org.
- Newidiadau i bolisi preifatrwydd Lantra
-
Bydd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru o bryd i'w gilydd ac felly efallai yr hoffech edrych arno bob tro y byddwch yn rhoi gwybodaeth i ni.