Telerau ac amodau

Trwy barhau i ddefnyddio'r wefan hon, rydych chi'n cytuno i gydymffurfio â'r telerau ac amodau defnyddio canlynol sydd, ynghyd â'n polisi preifatrwydd, yn llywodraethu perthynas Lantra â chi mewn perthynas â'r wefan hon. Os ydych chi'n anghytuno ag unrhyw ran o'r telerau ac amodau hyn, peidiwch â defnyddio ein gwefan.

Mae'r term 'Lantra' neu 'ni' yn cyfeirio at berchennog y wefan, a'i swyddfa gofrestredig yw Lantra House, Stoneleigh Park, Swydd Warwick, CV8 2LG. Rhif cofrestru’r cwmni yng Nghymru a Lloegr yw 2823181. Mae'r term 'chi' yn cyfeirio at y sawl sy’n defnyddio neu sy’n edrych ar ein gwefan.

Mae defnydd o'r wefan hon yn ddarostyngedig i'r telerau defnyddio canlynol:

  • Mae cynnwys tudalennau'r wefan hon er eich gwybodaeth a'ch defnydd cyffredinol yn unig. Gallai gael ei newid heb rybudd.
  • Nid ydym ni nac unrhyw drydydd partïon yn rhoi unrhyw warant ynghylch cywirdeb, amseroldeb, perfformiad, cyflawnrwydd nac addasrwydd y wybodaeth a'r deunyddiau a geir neu a gynigir ar y wefan hon at unrhyw ddiben penodol. Rydych chi'n cydnabod y gall gwybodaeth a deunyddiau o'r fath gynnwys anghywirdebau neu wallau ac rydym yn eithrio’n llwyr o unrhyw atebolrwydd am gamgymeriadau neu wallau o'r fath i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith.
  • Eich cyfrifoldeb chi yn llwyr yw eich defnydd o unrhyw wybodaeth neu ddeunyddiau ar y wefan hon, ac ni fyddwn yn atebol amdano. Chi sydd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw gynnyrch, gwasanaethau neu wybodaeth sydd ar gael trwy'r wefan hon yn bodloni eich gofynion penodol.
  • Mae'r wefan hon yn cynnwys deunydd sy'n eiddo i ni neu sydd wedi'i drwyddedu i ni. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, y dyluniad, cynllun, edrychiad, ymddangosiad a graffeg. Gwaherddir atgynhyrchu oni fydd yn unol â'r hysbysiad hawlfraint, sy'n rhan o'r telerau ac amodau hyn.
  • Rhoddir cydnabyddiaeth i’r holl nodau masnach a atgynhyrchir yn y wefan hon, nad ydynt yn eiddo i’r gweithredwr, nac wedi'u trwyddedu i'r gweithredwr, ar y wefan.
  • Gallai defnydd heb ei awdurdodi o'r wefan hon arwain at hawliad am iawndal a/neu fod yn drosedd.
  • O bryd i'w gilydd, gall y wefan hon gynnwys dolenni i wefannau eraill. Darperir y dolenni hyn er hwylustod i chi er mwyn darparu rhagor o wybodaeth. Nid yw hyn yn arwydd ein bod yn cymeradwyo'r wefan neu wefannau dan sylw. Nid oes gennym unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys y wefan neu’r gwefannau y cysylltir â nhw.
  • Mae eich defnydd o'r wefan hon ac unrhyw anghydfod sy'n deillio o’r defnydd hwnnw o’r wefan yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, a'r Alban.